top of page

Maes B a'r Penblwydd i Gofio

Elan Catrin Elidyr | 14 Awst 2017

 

Ydych chi’n barod am farn bias am wythnos gorau’r flwyddyn? Wel gret achos dyna be chi’n mynd i gael fan hyn. A meindiwch y teitl, mae’n swnio fel stori i blant bach ond bydd hwn ddim, i swear!

​

Efo Maes B yn troi’n ugain a’r mynediad yn debycach i security mewn maes awyr a chithau’n gorfod cael ID a’ch bagiau i gael eu archwilio a lot o sôn am ddiffyg merched yn y line up, roedd ‘na lot o siarad am sut fyddai Maes B. A fi’n hapus i ddeud - i fi oleua, nath e ddim siomi!

​

Mae Maes B yn rywbeth really arbennig - pedair noson o fandiau ac unigolion y Sin Roc Gymraeg yn chwarae i gannoedd o bobl ifanc Cymru, does dim byd tebyg. Nawr ma rhaid fi neud confession fan hyn, gan bod gymaint o bethau gwahanol ar y maes nawr a rheiny’n mynd ymlaen yn hir i’r nos roedd e’n golygu fy mod i llawer eraill yn aros ar y maes yn hirach ac yn cyrraedd Maes B yn hwyrach ac yn aml yn colli’r bandiau cynta - ond eniwe - nes i glywed ‘chydig o set Cpt. Smith oedd hefyd nos fercher ac oedden nhw’n swnio’n class. Mae’r band ifanc, punk o Gaerfyrddin yn neud enw da i’w hunain efo caneuon class fel Propeller a Llenyddiaeth.

A yna i gloi y noson, band mwya’ cŵl y sîn - CANDELAS gyda’r classics fel Anifail a Llwytha’r Gwn, nathon nhw hefyd chwarae ei can newydd Ddoe, Heddiw a Fory a mae hi’n biwt o gân yn cyfuno llais Osian a’r gitars lu!

​

Nos iau oedd noson y Monwysion efo Calfari, Fleur de Lys a Bryn Fon a Ffracas o Bwllheli. Mae rhaid i fi gyfaddau nes i fwynhau set Fleur de Lys yn fawr gyda’r ‘bangar’ yma’n dal i neud y rownds a cael y crowd i ddawnsio.

Nos Wener oedd fy noson i - ar ôl gwrando ar Lleden a Eden ar y maes (blast from the AMAZING past) nes i gyrraedd Maes B jyst mewn amser i wrando ar Yr Eira, sy’ newydd ryddhau albwm newydd. Rhaid i fi gyfaddau o’n ni wedyn siomi gyda'r gynulleidfa achos mae’r band yma ‘di neud yn class a mae’r albwm newydd yn llawn bangars go iawn, gret i flastio’n y car a nathon nhw ddim siomi yn Maes B chwaith.

A wedyn dath Swnami (ALERT - fi’n mynd i fod yn fias fan hyn achos fi’n MASSIVE ffan ohonyn nhw) ond o’n nhw’n gret ac oedd genon nhw westai arbennig, Greta Isaac, sy’n canu ar ei sengl newydd ond mae rhaid i fi ddeud nes i fwynhau nhw mwy ar lwyfan y maes nos fercher na nes i’n Maes B, er oedd y balwns mawr yn class. Wedyn nos Sadwrn a UCHAFBWYNT Maes B i fi Y REU - odden nhw’n hollol hollol class gyda caneuon fel Mhen i’n Troi a Gwell na Hyn mae nhw’n fand mae rhaid i chi weld yn fyw, mae jyst rhaid i chi!! A wedyn Yws Gwynedd a cynulleidfa fwya’ Maes B erioed, yn ôl bob sôn, gret fel arfer a mae’r albwm newydd yn albwm arbennig ar gyfer yr haf, i ddawnsio mewn cae ac i orffen off Maes B 2017.

Roedd hefyd carafan wrth ichi gerdded fewn i Maes B efo DJs gwahanol ynddo bob nos ac oedd e’n class, efo’r gerddoriaeth techno yn rhoi chydig o gystadleuaeth i rai o ganeuon y bandiau ar y llwyfan.

​

Mae Maes B yn rywbeth dyle pawb brofi, yn enwedig os chi’n Gymry, ond na fi’n credu dyle pobl tu allan i Gymru ei brofi ‘fyd achos mae angen iddyn nhw weld bod y Sîn yn ffynnu a bod ein cerddorion yn medru ac yn sefyll ochr yn ochr a bandiau gorau Lloegr a thu hwnt. Nawr er bod fi’n cytuno bod angen mwy o ferched ar y lein yp flwyddyn nesa, dyle merched ddilyn y merched sy yna’n barod a bossio’r llwyfan, fel Heledd, HMS Morris a Branwen Williams, Candelas a cofiwch bod Brwydr y Bandiau yn gyfle anhygoel i bob band newydd, cael y cyfle i berfformio mewn safleodd megis Clwb Ifor Bach, Caerdydd a wedyn perfformio ar lwyfan y maes, nos fercher y ‘steddfod a os chi’n AWESOME wedyn gewch chi chwarae nos sadwrn Maes B - felly ie canwch, gwnewch fand a gwrandewch i gerddoriaeth Cymraeg!

2017 by SpiltMilkUK

 

 

bottom of page